About Cymar

Cymar was registered with the Charity Commission as the single charity for Quakers in Wales and the Marches in April 2024 and began the process of merging the existing 5 charities in Wales and the Marches (Crynwyr Cymru – Quakers in Wales, Mid Wales Area Meeting, North Wales Area Meeting, Southern Marches Area Quaker Meeting and South Wales Area Meeting) into the single charity. 

This proved to be a long and tortuous process. As trustees we had planned to do it over several months, in stages during 2024, but due to unavoidable delays, that proved impractical. In the end all the charities merged at 00.01 a.m. on 1st January 2025.

We have carried on from where the working group, Symud Ymlaen – Moving Forward, left off, adopting a number of policies and procedures, establishing our financial system, moving all money across from the old bank accounts to the new and generally getting a feel for what is involved in being a much larger organisation. 

The role of Cymar is to provide the governance for Quakers in Wales and the Marches, to do the things that charities are legally required to do. We have no choice except to be a charity, it is the only legal structure appropriate for us as a religious body. But, by moving this work away from the Area Meetings and CCQW, we are able to give them the freedom to focus on the Spiritual life and social witness of Friends.

Cofrestrwyd Cymar gyda’r Comisiwn Elusennau fel yr unig elusen ar gyfer Crynwyr yng Nghymru a’r Gororau ym mis Ebrill 2024. Yna dechreuodd y broses o uno’r pum elusen bresennol yng Nghymru a’r gororau yn un elusen: (Crynwyr Cymru – Quakers in Wales, Crynwyr Canolbarth Cymru, Crynwyr Gogledd Cymru, Crynwyr y Gororau Deheuol a Chrynwyr De Cymru). 

Profodd hon i fod yn broses hir a thrafferthus. Fel ymddiriedolwyr, roedden ni wedi bwriadu gwneud hyn dros sawl mis, fesul cam yn ystod 2024, ond oherwydd peth oedi anochel, nid oedd hynny’n ymarferol. Yn y diwedd, unodd yr holl elusennau am 00:01am ar 1 Ionawr 2025.

Rydyn ni wedi parhau o ble orffennodd y gweithgor, Symud Ymlaen – Moving Forward, gan fabwysiadu llawer o bolisïau a gweithdrefnau, sefydlu ein system ariannol, trosglwyddo’r holl arian o’r hen gyfrifon banc i’r rhai newydd ac, yn gyffredinol, ddod i ddeall yr hyn y mae bod yn sefydliad llawer mwy yn ei olygu. 

Rôl Cymar yw darparu’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y Crynwyr yng Nghymru a’r Gororau, a chyflawni’r dyletswyddau y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i elusennau eu cyflawni. Nid oes gennym ddewis ond gweithredu fel elusen; dyma’r unig strwythur cyfreithiol sy’n addas i ni fel corff crefyddol. Ond, drwy symud y gwaith hwn i ffwrdd o’r Cyfarfodydd Ardal a CCQW, rydym yn rhoi’r rhyddid iddynt ganolbwyntio ar fywyd ysbrydol a thystiolaeth gymdeithasol y Cyfeillion.

Trustees and other Cymar roles

Our aim in changing our structures in this way was to “release the Spirit” within AMs and CCQW but, that doesn’t mean that Friends can ignore the work trustees are doing completely whilst they are enjoying and exploring that opportunity for development. It does mean that we need Friends to either be willing to serve as trustees, or to help with task and finish work, or to join one of our sub-committees. We understand that trustee work may not appeal to many, and can seem dry at times. But it is essential to the survival of our society and you never know, you might learn a lot and find it interesting! You will certainly get to know more Friends across Wales and the Marches if you join us.

Our constitution requires us to have at least one trustee from each Area Meeting and a Treasurer, but this is inadequate and fragile. Without sufficient voices heard, and a diversity of views and experiences, trustees cannot make good decisions. It isn’t a strong and effective way to operate. As a bare minimum we should have 2 trustees from each Area Meeting, and ideally 3 from larger Area Meetings, plus the Treasurer, and an Assistant Treasurer, our constitution allows us to be up to 15 trustees including the Treasurer. 

Could you become a trustee? Could you help trustees? What we are doing is new and different, it gives us an opportunity to experiment with doing things differently, we can live adventurously, within the confines of Charity law. You might think that you are not the sort of person who gets asked to be a trustee, to do this kind of work, but why not give it a go? We will never learn, change or develop if we always look to the same “sort” of people – we can try new ways, different people and characters, we never know what gifts we may have hidden within us, until we try to bring them to the surface.

Ymddiriedolwyr a rolau eraill o fewn Cymar 

Ein nod wrth newid ein strwythurau yn y ffordd hon oedd “rhyddhau’r Ysbryd” o fewn y Cyfarfodydd Ardal a’r CCQW. Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu y gall Cyfeillion anwybyddu’n llwyr y gwaith y mae’r ymddiriedolwyr yn ei wneud tra’u bod yn mwynhau ac yn gwneud y mwyaf o’r cyfle i ddatblygu. Mae’n golygu bod angen i Gyfeillion fod naill ai’n fodlon i wasanaethu fel ymddiriedolwyr, neu helpu gyda gwaith gorchwyl a gorffen, neu ymuno ag un o’n his-bwyllgorau. Rydym yn deall nad yw gwaith ymddiriedolwyr o reidrwydd yn apelio at lawer, a gall ymddangos yn sych ar adegau. Ond mae’n hanfodol i oroesiad ein cymdeithas, ac efallai y cewch eich synnu gan faint y gallwch ei ddysgu a pha mor ddiddorol y gall fod! Os ymunwch â ni, byddwch yn sicr o ddod i adnabod mwy o Gyfeillion ledled Cymru a’r Gororau.

Mae ein cyfansoddiad yn ei gwneud yn ofynnol inni gael o leiaf un ymddiriedolwr o bob Cyfarfod Ardal, ynghyd â Thrysorydd, ond mae hynny’n annigonol ac yn ansefydlog. Heb ddigon o leisiau’n cael eu clywed, a heb amrywiaeth o ran safbwyntiau a phrofiadau, ni all ymddiriedolwyr wneud penderfyniadau da. Nid yw’n ffordd gadarn ac effeithiol o weithredu. Fel isafswm, dylem gael 2 ymddiriedolwr o bob Cyfarfod Ardal, ac yn ddelfrydol 3 o bob Cyfarfod Ardal ehangach, ynghyd â Thrysorydd a Thrysorydd Cynorthwyol. Mae ein cyfansoddiad yn caniatáu inni gael hyd at 15 o ymddiriedolwyr, gan gynnwys y Trysorydd. 

Allech chi ymuno fel ymddiriedolwr? Allech chi helpu’r ymddiriedolwyr? Mae’r hyn yr ydym yn ei wneud yn newydd ac yn wahanol. Mae’n rhoi cyfle inni arbrofi â ffyrdd gwahanol o wneud pethau, gan fentro ar bethau newydd o fewn ffiniau cyfraith elusennau. Efallai eich bod yn meddwl nad chi yw’r math o berson sy’n cael ei wahodd i fod yn ymddiriedolwr neu i wneud y math hwn o waith, ond beth am roi cynnig arni? Ni fyddwn yn dysgu, yn newid nac yn datblygu os byddwn yn troi at yr un “math” o bobl drwy’r amser. Gallwn roi cynnig ar ffyrdd newydd a gweithio â phobl a chymeriadau gwahanol, ond fyddwn ni byth yn gwybod beth yw ein gwir alluoedd ni nes inni roi cyfle iddyn nhw ddod i’r amlwg.

The Cymar Timeline

2006 to 2008 - RECAST, exploring the shape of Area Meeting in Wales and the Marches and whether to join together.  Part of a wider initiative in Britain Yearly Meeting as Area Meetings began to register as charities.

September 9th 2019 - meeting of all clerks of Wales at the Pales, sharing difficulties filling roles as meetings are declining in number and energy.  Concern about being able to appoint trustees in the future.

October 26th 2019 - Meeting of Friends in Wales (now Crynwyr Cymru - Quakers in Wales) in Newtown received a report from the Meeting of All Clerks of Wales and discerned it was time to revisit the exploration of whether to join together the Area Meetings and CCQW as one charity.

January 14th 2020 - Meeting of "Newid" - a group for change at Shrewsbury with a representative from each Area Meeting and CCQW.  Agreed to find a facilitator from outside the area and appoint 2 reps from each body to work with the facilitator and local development worker.

March 3rd 2020 - first in person meeting of the full "Newid" group just before lockdown.  All subsequent meetings were held online and the group soon changed its name to Symud Ymlaen/ moving forwards.

January 1st 2021 - As part of an experiment in working together, an arrangement of Shared Trustees began when each of the 4 Area Meeting trustee bodies included a trustee from each of the other three Areas so trustees became familiar with how each set of trustees operated.

September 19th 2023 - following discernment and agreement from each of the 5 bodies to go ahead, an Inaugral Meeting of Cymar was held in online and the first 4 trustees and the treasurer were appointed.

January 9th 2024 - a progress meeting was held at Shrewsbury

November 9th 2024 - First Cymar AGM held in Hereford with Paul Parker as the speaker

September 20th 2025 - Second Cymar AGM held in Wrexham with Sarah Donaldson as the speaker

September 19th 2026 - Third Cymar AGM held in Cardiff with Rowan Williams as the speaker

Llinell amser Cymar

2006 i 2008 – RECAST, a fu’n archwilio strwythur y Cyfarfodydd Ardal yng Nghymru a'r Gororau ac yn ystyried a ddylai’r ddau uno.  Yn rhan o fenter ehangach yng Nghyfarfod Blynyddol Prydain pan ddechreuodd Cyfarfodydd Ardal gofrestru fel elusennau.


9 Medi 2019 – cyfarfod holl glercod Cymru yn y Pales, yn rhannu'r anawsterau o ran llenwi rolau wrth i gyfarfodydd leihau o ran niferoedd ac o ran egni.  Pryder ynghylch y gallu i benodi ymddiriedolwyr yn y dyfodol.


26 Hydref 2019 – Derbyniodd Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru (Crynwyr Cymru bellach) yn y Drenewydd adroddiad gan Gyfarfod Holl Glercod Cymru, a daeth i'r canfyddiad ei bod yn bryd ailymweld â'r archwiliad o'r posibilrwydd o uno'r Cyfarfodydd Ardal a CCQW yn un elusen.


14 Ionawr 2020 – Cyfarfod y grŵp "Newid" yn Amwythig, gyda chynrychiolydd o bob Cyfarfod Ardal a CCQW.   Cytunwyd i benodi hwylusydd o'r tu allan i'r ardal ac i benodi dau gynrychiolydd o bob corff i weithio gyda'r hwylusydd a'r gweithiwr datblygu lleol.


3 Mawrth 2020 – cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf y grŵp “Newid” cyfan, ychydig cyn y cyfnod clo.  Cynhaliwyd pob cyfarfod dilynol ar-lein, a newidiodd y grŵp ei enw yn fuan i Symud Ymlaen.

1 Ionawr 2021 – Fel rhan o arbrawf i gydweithio, sefydlwyd trefniant o Ymddiriedolwyr a Rennir, gyda phob un o bedwar corff ymddiriedolwyr y Cyfarfodydd Ardal yn cynnwys ymddiriedolwr o bob un o'r tair Ardal arall. Y bwriad oedd helpu'r ymddiriedolwyr i ymgyfarwyddo â'r ffordd yr oedd pob corff ymddiriedolwyr yn gweithredu.


19 Medi 2023 – yn dilyn craffu a chytundeb gan bob un o'r pum corff i fwrw ymlaen, cynhaliwyd Cyfarfod Sefydlu Cymar ar-lein, a phenodwyd y pedwar ymddiriedolwr cyntaf a'r trysorydd.


9 Ionawr 2024 – cynhaliwyd cyfarfod i adolygu cynnydd yn Amwythig.


9 Tachwedd 2024 – cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf Cymar yn Henffordd, gyda Paul Parker yn siaradwr gwadd.


20 Medi 2025 – cynhaliwyd ail Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymar yn Wrecsam, gyda Sarah Donaldson yn siarad.


19 Medi 2026 – cynhaliwyd trydydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymar yng Nghaerdydd, gyda Rowan Williams yn siarad.